Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Comisiwn y Senedd
Ein Rôl
Mae Comisiwn y Senedd yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Comisiwn y Senedd yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Senedd Cymru.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn bennaeth arnynt.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i Senedd Cymru bwerau arwyddocaol i ddeddfu, ac mae’n cryfhau ei rôl graffu. Mae hefyd yn creu Llywodraeth Cymru sydd ar wahân yn gyfreithiol a chorff corfforaethol sef Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau’r Senedd.