Sylwadau gan ein staff - Rhiannon Hincks

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dechreuais weithio yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2016 ar ôl cyfnod o weithio fel cyfieithydd yng nghwmni Prysg. Cyn hynny, bues i’n astudio cyfieithu arbenigol ym mhrifysgol KU Leuven yng Ngwlad Belg ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2015. Yn wreiddiol, roeddwn yn gweithio fel golygydd dan hyfforddiant yn y Senedd, ond yn ddiweddarach penderfynais hyfforddi fel cyfieithydd ar y pryd hefyd. Bellach, dwi’n ddigon ffodus i gael rhannu fy amser rhwng y ddwy swyddogaeth hyn.

I fi, y peth gorau am weithio ar y Cofnod yw bod pob darn o waith y byddwch yn ei gwblhau yn gyfraniad gwerthfawr at yr un campwaith mawr y byddwch yn ei gynhyrchu fel tîm. Mae’n wych gwybod bod eich gwaith yn cael ei ddefnyddio fel adnodd gwerthfawr i wleidyddion a’i fod yn ddarn pwysig o lenyddiaeth ddemocrataidd i’r cyhoedd ac mae’n bleser gallu defnyddio’ch sgiliau ieithyddol i gyflawni hyn bob dydd. Mae cyfieithu ar y pryd yn waith heriol ond boddhaol dros ben. Mae’r cynnwrf rydych yn ei deimlo cyn pob cyfarfod yn sicr yn eich cadw ar flaenau eich traed. Dwi wrth fy modd yn cael bod yng nghanol holl waith trin a thrafod y Senedd.

Yn fy amser hamdden, dwi’n mwynhau gwneud pob math o wahanol chwaraeon, o redeg a beicio i nofio a dringo mynyddoedd. Yn ogystal â hynny, dwi wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth byw, mynd i’r theatr, dysgu ieithoedd a theithio i lefydd newydd.