Sylwadau gan ein staff - Evan Jones

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Evan Jones - Swyddog Cymorth Pwyllgor

Helo, fy enw i yw Evan ac rwyf wedi bod yn gweithio yma ers 18 mis. Rwy’n gweithio yng Ngwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, fel swyddog cymorth pwyllgor i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rwyf wrth fy modd yn gweithio yma oherwydd bod cymaint o amrywiaeth - nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Er enghraifft, un diwrnod mae’n bosibl y byddaf yn gweithio ar ymchwiliad i bwnc penodol, ac ar ddiwrnod arall byddaf yn gweithio ar ddeddfwriaeth newydd! Rwyf wedi cael cymaint o gefnogaeth gan fy nghydweithwyr yn yr adran ac ar draws y sefydliad o’r cychwyn cyntaf. Mae’n lle hynod gyfeillgar! Mae cymaint o gyfleoedd i weithio ar brosiectau a dysgu pethau newydd. Rwyf wrthi’n dysgu Cymraeg yma, ac mae’r adnoddau sydd ar gael i wneud hyn yn wych.