Gweithio oriau hyblyg

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Rydym yn gyflogwr sy'n hapus i siarad am weithio'n hyblyg ac, yn dibynnu ar anghenion eich rôl, gallwn ystyried patrymau gweithio hyblyg gan gynnwys gweithio’n rhan-amser, rhannu swydd, gweithio yn ystod y tymor ac oriau cywasgedig. Mae gan rai pobl drefniadau gweithio hyblyg ffurfiol sy’n eu galluogi i weithio o bell, naill ai’n barhaol neu’n rheolaidd. Fodd bynnag, os yw'ch rôl yn caniatáu ar gyfer hynny, cewch gyfle i weithio gartref yn awr ac yn y man hefyd.

Gallwn hefyd gynnig oriau gwaith hyblyg i'ch helpu i reoli'ch diwrnod gwaith mewn ffordd sy'n addas i ni ac i chi. Wrth gwrs, mae’r hyblygrwydd yn amrywio gan ddibynnu ar eich rôl ac anghenion eich gwaith, ond mewn llawer o achosion bydd gennych hyblygrwydd i drefnu'ch diwrnod gwaith, i’ch helpu i gydbwyso eich bywyd gwaith a’ch bywyd cartref.