Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon (BIPA)

Cyhoeddwyd 19/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Sefydlwyd Corff Rhyngseneddol Prydain ac Iwerddon ym mis Chwefror 1990, er mwyn trafod materion o ddiddordeb rhwng cynrychiolwyr gwleidyddol ym Mhrydain ac Iwerddon.  

 

Mae rhagor o wybodaeth am BIPA ar wefan BIPA

Strwythur BIPA Cymru

Aelodau Llawn BIPA

Caiff aelodau eu henwebu gan eu pleidiau i fod yn rhan o ddirprwyaeth y Senedd.

Swyddog y Senedd: Elin Sutton - Ysgrifennydd Preifat Cynorthwyol (Llywyddion) a Rheolwr Cysylltiadau Rhyngwladol 

Cyfarfodydd Llawn

Mae BIPA yn cynnal Cyfarfod Llawn ddwywaith y flwyddyn, gan amrywio rhwng y DU ac Iwerddon.  Mae pob Cyfarfod Llawn yn para diwrnod a hanner ac yn cael ei oruchwylio gan ddau gyd-Gadeirydd.

Cofnodion Cyfarfodydd Llawn BIPA

Adroddiadau Pwyllgor BIPA

Caiff y Senedd ei gynrychioli ar Bwyllgor B (Materion Ewropeaidd), Pwyllgor C (Materion Economaidd), a Phwyllgor D (Materion Amgylcheddol a Chymdeithasol). Mae’r Pwyllgorau yn ymgymryd ag ymchwiliadau penodol, ac yn cyflwyno’u hadroddiadau i’r Cyfarfodydd Llawn ar gyfer sylwadau ac er mwyn eu cytuno.

Yn dilyn hynny, caiff yr adroddiadau eu cyhoeddi a’u cylchredeg i Bwyllgorau perthnasol yn y Senedd.

 

Gwaith Diweddaraf y Pwyllgorau

Pwyllgor B (Materion Ewropeaidd)

Ymchwiliad Cyfredol: Cydweithredu ar Amddiffyn a Diogelwch rhwng y DU a’r UE yn dilyn Brexit. 

Pwyllgor C (Materion Economaidd)

Adroddiad: Strategaeth Ynni Llywodraeth a Pholisi Ynni ar gyfer Defnyddwyr

Ymchwiliad Cyfredol: Gofal Plant fel Seilwaith Economaidd

Pwyllgor D (Materion Amgylcheddol a Chymdeithasol)

Adroddiad:

Darpariaeth ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Brodorol ar draws awdurdodaethau BIPA

Ymchwiliad Cyfredol: Tai Gwledig